Cgwersyll eglwysi cadeiriol proseiectau cadwraethol.
Rhwng 16 a 30 oed?
• Am gael wythnos rad o hwyl mewn dinas ym Mhrydain?
• Yn edrych am brosiect preswyl ar gyfer eich cynllun Gwobr Dug Caeredin?
• Yn mwynhau cyfarfod â phobl ifanc tebyg i chi?
• Am gymryd rhan mewn cynnal a chadw tamaid hardd o'n hanes?
Os ydych chi...
Beth am ymuno â Gwersyll Eglwysi Cadeiriol?
Elusen gofrestredig ydi Gwersyll Eglwysi Cadeiriol "Cathedral Camps", sy'n rhedeg cyfres o wythnosau gwyliau gwaith gwirfoddol bob haf mewn Eglwysi Cadeiriol ac Eglwysi Plwyf drwy Brydain. Bydd hyd at 25 o wirfoddolwyr ifanc ym mhob gwersyll, sy'n dod o Brydain a gwledydd eraill. Bydd eich wythnos yn cynnwys gwaith caled a chynhyrfus, yn cynnal a chadw'r adeiladau au tiroedd drwy:
• Ianhau a cadw meini coffa marmor seddau'r côr a drysau mawr pren
• Glanhau a chlirio gwagle'r tô neu'r twr a'r grisiau
• Peintio y tu mewn a'r tu allan.
Byddwch yn sicr o "faeddu'ch dwylo" a darganfod rhannau o'r eglwysi sydd ar gau i'r cyhoedd fel arfer.
Yn ogystal â hyn, mae 'na fywyd cymdeithasol grêt ar gael. Yn y gorffennol, mae gwersylloedd wedi treulio diwrnod wrth lan y môr, neu wedi bod yn sinema, yn bowlio neu'n sglefrio iâ ac yn mwynhau sawl parti! Bydd p'nawn Sadwrn a dydd Sul yn amser rhydd i chi gael mwynhau'r ardal o'ch cwmpas. Popeth am bris rhad iawn.